Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5 (Hybrid)
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Gorffennaf 2023
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Rhys Morgan
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
------
Cofrestru cyn y cyfarfod: 13.30 – 14:00
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 7
(14:00-15:00) (Tudalennau 1 - 20)
Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
3 Papurau i'w nodi
(15:00)
3.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo
(Tudalen 21)
3.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cytundeb ar Gydnabyddiaeth Gilyddol a Chyfnewid Trwyddedau Gyrru Cenedlaethol ac ar Gyfnewid Gwybodaeth am Droseddau Traffig Cysylltiedig â Diogelwch Ffyrdd (DU/Sbaen)
(Tudalennau 22 - 28)
3.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch dogfennaeth sy'n cyd-fynd â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
(Tudalennau 29 - 31)
3.4 Gohebiaeth gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ynghylch darparu safle ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr
(Tudalennau 32 - 35)
3.5 Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
(Tudalennau 36 - 41)
3.6 Gohebiaeth gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch symud gwasanaeth presgripsiynu electronig gofal sylfaenol ar bresgripsiynau ar draws ffiniau
(Tudalennau 42 - 43)
3.7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
(Tudalen 44)
3.8 Gohebiaeth gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
(Tudalennau 45 - 49)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(15:00)
5 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth a materion allweddol
(15:00-15:45)
6 Cyfiawnder data: trafod gohebiaeth ddrafft
(15:45-15:55) (Tudalennau 50 - 68)
7 Blaenraglen waith
(15:55 - 16:10) (Tudalennau 69 - 77)
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion: trafod yr adroddiad drafft
(16:10-16:20)